Hafan  |  Amddiffyn yr Amgylchedd  |  Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr

Mae’r sefyllfa o ran adnoddau dŵr yn ardal gyflenwi Dŵr Cymru yn eithaf cryf. Dim ond tua 3% o’r glawiad effeithiol blynyddol yr ydym yn ei dynnu er mwyn ei gyflenwi i’r cyhoedd yn ein rhanbarth ni, o’i gymharu â thua 50% yn ne a dwyrain Lloegr.

Mae tua 95% o’n hadnoddau dŵr yn cychwyn eu taith fel dŵr wyneb naill ai o gronfeydd dŵr neu o afonydd. Ychydig iawn yr ydym yn ddibynnu ar gyflenwadau dŵr daear. Trwy ddibynnu ar ddyfroedd wyneb, rydym yn fwy tebygol o wynebu prinder ar ôl cyfnodau byr o sychder gan fod lefelau afonydd yn newid yn fwy sydyn na dyfroedd daear.

Rydyn ni’n codi dŵr o dan drwyddedau a gyhoeddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Yr Asiantaeth sy’n gyfrifol am sicrhau defnydd cynaliadwy o adnoddau dŵr yng Nghymru a Lloegr. Mae’r trwyddedau’n pennu faint o ddŵr y gallwn ei godi bob dydd o’r flwyddyn ac ar ba gyflymdra. Mae gan afonydd Cymru statws ecolegol uchel a bwriad y trwyddedau yw ceisio cynnal hyn. Mae’r rhyddhau dŵr o gronfeydd Dŵr Cymru yn ystod cyfnodau sych yn helpu i gynnal llif yr afonydd.

Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am sicrhau bod adnoddau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy ac mae Dŵr Cymru’n cael trwydded ganddynt ar gyfer pob man y maent yn tynnu dŵr. Mae’r trwyddedau hyn yn nodi faint o ddŵr y caniateir ei dynnu ar bob dydd o’r flwyddyn ac ar pa gyfradd. Mae gan afonydd yng Nghymru statws ecolegol uchel a phennir y trwyddedau mewn ffordd sy’n sicrhau y bydd hyn yn parhau. Mae dŵr yn cael ei ryddhau o gronfeydd Dŵr Cymru yn ystod cyfnodau sych i helpu i gynnal llif yr afonydd.

Er mwyn sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i’n cwsmeriaid pan fydd arnynt ei angen, mae gan Dŵr Cymru Gynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (CRhAD/WRMP) sy’n rhoi rhagolwg o’r cyflenwad a’r galw yn ein hardal cyflenwi dŵr dros gyfnod o 25 mlynedd. Cyhoeddwyd ein Cynllun Rheoli terfynol ym mis Hydref 2012 ac fe gynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn arno.

Mae rhan arall o strategaeth Dŵr Cymru’n disgrifio sut yr ydym yn rheoli dŵr mewn cyfnodau o dywydd eithafol. Lluniwyd Cynllun Sychder Drafft gan Dŵr Cymru yn 2006 ac mae’n amlinellu’r strategaeth gyfathrebu a gweithredu a ddilynir gennym mewn cyfnodau o sychder. Byddai’r cynllun drafft hwn yn cael ei roi yn ei le yn ystod cyfnod o sychder eithriadol. Fodd bynnag, ni chaif y cynllun ei gyhoeddi hyd nes y ceir cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru.