Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i arbed dŵr a hyrwyddo defnydd effeithiol o ddŵr.
Oeddech chi’n gwybod:
Bod taenellwr dŵr yn defnyddio 1 metr ciwbig o ddŵr yr awr – byddai’n cymryd dau ddiwrnod i deulu cyffredin ddefnyddio’r un faint yn y tŷ.
Bod gadael tap yn rhedeg yn gwastraffu deg litr o ddŵr bob tro.
Y gall tap sy’n diferu wastraffu llond bath o ddŵr yr wythnos.
Bod y galw am ddŵr ar ei fwyaf rhwng 5:30pm ac 8pm – osgowch ddyfrio’r ardd a golchi rhwng yr amserau hyn.
Y gall rhoi gwellt wrth fonion planhigion gwtogi 70% ar yr anweddiad.
Taw dŵr yw 72% o’ch ymennydd.
Os gwelwch chi ddŵr yn gollwng, ffoniwch RADFFON 0800 281 432
Ailgylchu
Mae’n ddiogel defnyddio dŵr golchi llestri a dŵr y bath ar y lawnt ac ar blanhigion mewn borderi a gwelyau blodau. Ond dylech osgoi eu defnyddio ar lysiau ac ar blanhigion mewn potiau ac ati. Mae’r dŵr o beiriannau golchi llestri a dillad yn llawn halen a glanedyddion, felly nid yw’n ddoeth ei ddefnyddio yn yr ardd.
Cewch gasglu a storio glaw mewn casgen ddŵr a’i ddefnyddio wedyn yn yr ardd ac i wneud gwaith arall y tu allan. Gallwch brynu casgenni dŵr mewn siopau nwyddau cartref.